Llefaru am Iesu Grist
   
 
 
 
 


1111
Mae’r eglwys gyntaf o nifer wedi ei chysegru i Benedict Sant (adnabyddu fel Bened Sant) yn cael ei hadeiladu ar y man hon.

1555
Mae eglwys Bened Sant yn cael ei etholedu fel eglwys Coleg yr Arfau.

1640
Mae’r gwrthgefn allor, yr Allor a’r rheiliau’r Allor yn cael ei osod, sydd i gyd dal yma heddiw.

1652
Mae Inigo Jones, pensaer blaenllaw a chynlluniwr llwyfan, yn cael ei gladdu yn yr eglwys.

1666
Mae Tân Fawr Llundain yn difetha eglwys Bened Sant.

     


1111-1666

Y mae eglwys, yn gysegredig i Sant Benet (neu Benedict), wedi bod ar y safle hyn ers y ddeuddegfed ganrif.

Cyfeiriodd Shakespeare ati yn Twelfth Night: Feste, y digrifwr, wrth holi’r Dug Orsino i ategu trydydd darn o arian i’r ddwy mae’n e’u cynnig iddo, yn ei atgofio “the bells of St Bennet, sir, may put you in mind – one, two, three”.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, am fod porth Castell Baynard wrth lan yr afon, derbyniodd Anne Boleyn a Lady Jane Grey eu defodau cymun olaf yn Sant Benet ar eu ffordd i’r Twr i gael eu dienyddio. Yr oedd yr afon Tafwys wrth gwrs megis heol bwysig bryd hynny a gorffennodd yr anffodusion eu siwrnai mewn cwch.


 

Ers 1555 mae Sant Benet wedi bod yn eglwys i’r Coleg Arfau ac mae eu canolfan gyferbyn i’r eglwys yn Queen Victoria Street. Mae’r Coleg yn cyflwyno arfau bonedd i’r rhai mae’n eu cyfrif yn deilwng o’u derbyn.

Ym 1652 claddwyd Inigo Jones, gyda’i dad a’i fam, yn yr eglwys. Yr oedd yn bensaer a chynhyrchydd dramau cerdd, ac efe a gynlluniodd y Banqueting House yn Whitehall.